Ar fin yr hen Iorddonen ddofn,
'Rwy'n gruddfan ddydd a nos,
Yn teimlo weithiau chwant myn'd trwy,
Ond eto'n ofni'r loes.
O na bai modd i mi yn awr,
Ysgoi ei chenllif cry',
A 'hedeg uwch ei thònau mawr,
I'r lân breswylfa fry.
Wrth imi gofio grym y dw'r,
A'r tònog genllif mawr,
A'r mynych rymus
ddewrwych ŵr,
A suddodd ynddi i lawr.
'Rwy'n teimlo arswyd tàn fy mron,
Wrth gofio hon mae'n wir,
Rhag ofn mai boddi ynddi wnaf,
Cyn cyrhaedd Canaan dir.
Ond pan y gelwyf draw o bell,
Fy hen gyfeillion gwiw,
Aeth trwyddi'n lluoedd o fy mlaen,
Heb arnynt boen na briw.
'Rwy'n teimlo hiraeth y pryd hyn,
Am wel'd yr hyfryd awr,
Y derfydd i mi ofni mwy,
Yr hen Iorddonen fawr.
William Thomas 1790-1861Llyfr Emynau 1823 [Mesur: MC 8686] |
On the edge of the old deep Jordan,
I am groaning dy nd night,
Feeling sometimes n urge to go through,
But still fearing the anguish.
O that there were some means for me now,
To avoid its strong torrent,
And fly above its great waves,
To the holy dwelling-place above.
As I remember the force of the water,
And the great billowing torrent,
And the manifold strong
brilliantly brave men,
Who sank down in it.
I am feeling horror under my breast,
On remembering this, it is true,
Lest I drown in it,
Before reaching the land of Canaan.
But when I see yonder from afar,
My old worthy friends,
Who went through it as hosts before me,
With neither pain nor bruise upon them.
I am feeling longing at this time,
To see the delightful hour,
When my fear shall cease forever
Of the great old Jordan.
tr. 2023 Richard B Gillion
|
|